Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
18 Mawrth 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 3.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cymorth i fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020?
(5 munud)
NNDM7309 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 18 Mawrth 2020.
(5 munud)
NNDM7310 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2020.
(5 munud)
NNDM7311 – Elin Jones (Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
1. Yn cytuno i newid enw a chylch gwaith Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd.
2. Yn nodi y bydd y newid yn dod i rym ar 6 Mai 2020.
(5 munud)
NNDM7312 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad ac Amgylchiadau Eithriadol' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu.
(5 munud)
NNDM7313 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24D, yn ethol David Melding yn Gadeirydd Dros Dro o dan y telerau a bennir o dan Reol Sefydlog 6.24E.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24A, yn ethol David Melding yn Llywydd Dros Dro dynodedig
(0 munud)
(0 munud)
NDM7302 David Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar gytundebau rhyngwladol y DU ar ôl Brexit - rôl i’r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2019.
Er gwybodaeth: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 5 Chwefror 2020.
(0 munud)
NDM7301 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl’ a gasglodd 5,682 o lofnodion.
P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl
(0 munud)
NDM7299 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd rhoi diwedd ar greulondeb i anifeiliaid yng Nghymru.
2. Yn cefnogi'r gwaharddiad ar y fasnach ffwr.
3. Yn cydnabod natur farbaraidd maglau a'r dioddefaint a achosir ganddynt.
4. Yn pryderu bod bwlch mewn deddfwriaeth gyfredol wedi caniatáu i'r rhai sy'n gosod trapiau barhau i ddal llwynogod, cwningod a mincod.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd gosod trapiau a defnyddio maglau yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw am ddileu pob math o greulondeb i anifeiliaid yng Nghymru drwy:
a) deddfwriaeth ynghylch lles anifeiliaid a gaiff ei hatgyfnerthu’n raddol ac yn gyson;
b) polisïau ynghylch lles anifeiliaid sy’n cyd-fynd â’r dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael a’r safonau moesegol uchaf;
c) camau gorfodi effeithol o ran y gyfraith drwy’r heddlu a’r timau troseddu gwledig;
d) camau gweithredu mwy cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, yr heddlu, awdurdodau lleol a sefydliadau bywyd gwyllt;
e) creu diwylliant o barch a thosturi tuag at bopeth byw.
2. Yn cefnogi Deddf Hela 2004, gan gredu bod hela llwynogod gan ddefnyddio cŵn yn farbaraidd, ac yn gwrthwynebu unrhyw gam i wanhau Deddf Hela 2004.
3. Yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar ei pholisïau presennol er mwyn gwarchod rhag creulondeb i anifeiliaid yng Nghymru, ac yn enwedig mewn perthynas â dileu TB Buchol ymysg gwartheg.
NDM7303 Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Rôl Banc Datblygu Cymru o ran cefnogi tai a datblygu.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Mawrth
2020